Cyfeillion Menter Iaith Rhondda Cynon Taf
Friends of Menter Iaith Rhondda Cynon Taf
Cynllun Talebau Tesco
Ers dros pum mlynedd ar ugain mae Cyfeillion Y Fenter wedi cynorthwyo’r Fenter yn ariannol trwy gynllun Talebau Tesco. Trwy’r gronfa yma cafwyd sicrwydd bod gan Y Fenter arian annibynnol wrth gefn i’w gadw a’i ddefnyddio i ymateb i anghenion brys sy’n codi o bryd i’w gilydd.
Ar hyn o bryd mae’r gronfa yn weddol iachus ond mae angen sicrhau’r dyfodol drwy sicrhau twf sylweddol yn y gronfa.
Un ffordd o wneud hyn yw trwy Gynllun Talebau Tesco.
Mae’r Fenter yn archebu Talebau’n fisol ac yn derbyn credyd £5 ar bob archeb o £100.
Sut mae’r cynllun yn gweithio?
Mae’r cynllun yn un syml:
Mae unigolion yn archebu talebau bob mis yn unigol neu mewn grwpiau bach gan benodi 1 person fel Cydlynydd.
Mae’r Cydlynydd grŵp yn anfon yr archeb i’r Trefnydd sy’n archebu, talu a dosbarthu’r talebau bob mis.
Mae’r Cydlynydd yn dosbarthu’r talebau i’r grŵp.
Gallwch chi dderbyn eich talebau fel cerdyn gwario neu’n ddigidol ar eich ffôn symudol. Mae cardiau gwario yr un peth â cherdyn banc sy’n cael ei ddefnyddio tan ei fod yn wag ac mae'n ddilys am 5 mlynedd.
Gallwch chi ddefnyddio eich talebau i brynu nwyddau mewn unrhyw Tesco ond ddim ar betrol neu ar-lein.
Sut i archebu:
Os am fwy o wybodaeth neu eglurhad cysylltwch â’r Trefnydd, John Llew Thomas:
E-bost: johnllewt@hotmail.com
Ffôn: 01443 218077 a 07881822069
Tesco Voucher Scheme
For over twenty-five years the Friends of Menter Iaith RhCT have supported the Menter financially through the Tesco Voucher scheme. Through this fund it was ensured that Menter Iaith RhCT had independent reserve funds to keep and use to respond to urgent needs that arise from time to time.
At the moment, the fund is fairly healthy but the future needs to be secured by ensuring significant growth in the fund.
One way of doing this is through the Tesco Voucher Scheme.
Menter Iaith RhCT orders vouchers monthly and receives a £5 credit on every order of £100.
How does the scheme work?
The plan is simple:
Individuals order vouchers every month individually or in small groups appointing 1 person as Coordinator.
The group Coordinator sends the order to the Organizer who orders, pays, and distributes the vouchers every month.
The Co-ordinator then distributes the vouchers to the group.
You can receive your vouchers as a spending card or digitally on your mobile phone. Spending cards are the same as a bank card which is used until empty and are valid for 5 years.
You can use your vouchers to buy goods in any Tesco but not on petrol or online.
How to order:
For more information or clarification please contact the Organiser, John Llew Thomas:
E-mail: johnllewt@hotmail.com
Phone: 01443 218077 or 07881822069
Rhoi i Fenter Iaith Rhondda Cynon Taf
Make a donation to Menter Iaith Rhondda Cynon Taf
Gallwch hefyd gyfrannu at ein gwaith trwy rodd ariannol. Boed yn gyfraniadau bach neu fawr, rydym yn ddiolchgar iawn am bob rhodd.
You can also support our work with a donation. Be they large or small, we're incredibly grateful for each and every donation.