Menter Iaith Rhondda Cynon Taf

Beth yw Menter Iaith?
What is Menter Iaith

Mudiadau lleol yw’r Mentrau Iaith, sy’n rhoi cymorth i gymunedau i gynyddu ac ehangu’r defnydd o’r iaith Gymraeg. Mae Menter Iaith yn gweithio ar draws un sir fel arfer, ac yn adlewyrchu awydd pobl leol i wneud mwy o ddefnydd o’r iaith.

Mae’r Mentrau yn rhoi cymorth a chyngor i unigolion, mudiadau a busnesau, ac yn cynnal gweithgareddau a chynnal gwasanaethau lle bo’r galw a’r angen er mwyn codi proffil a defnydd yr iaith.

‘Mentrau Iaith’ are local organisations who support communities to increase and expand the use of the Welsh language. Mentrau Iaith operate in one county usually, encouraging local enthusiasm to use more of the Welsh language.

Menter Iaith advise and support individuals, organisations and businesses and deliver activities and services given the demand to raise the profile and use of the language.

menter-1
menter-2
menter-3

Menter Iaith Rhondda Cynon Taf

Rydym yn “hyrwyddo, cydlynu a threfnu gweithgareddau a gwasanaethau Cymraeg eu hiaith yn Rhondda Cynon Taf. Drwy ein gweithredoedd rydym yn cynyddu cyfleoedd i bobl o bob oed i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol. Rydym yn sicrhau bod cyrff cyhoeddus eraill yn rhoi statws cyfartal i’r iaith a bod busnesau a gwasanaethau yn sylweddoli budd yr iaith a'r cyfrifoldebau sydd arnynt.

Rydym yn fan cyswllt i fudiadau Cymraeg  a chymunedol eraill o fewn y Sir, ac yn gweithio mewn partneriaeth gyda nhw. Trwy ein gweithredoedd,  gobeithiwn sicrhau tegwch, chwarae teg a hawliau cyfartal i’r Iaith Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf.”

Mae gennym nod uchelgeisiol:

“Bod y Gymraeg yn perthyn i bawb yn Rhondda Cynon Taf ac yn iaith fyw yn ein cymunedau.”

We promote, coordinate and deliver Welsh-language activities and services across Rhondda Cynon Taf. Through our work we increase opportunities for people of all ages to use the Welsh language naturally, ensure that other public bodies give an equal status to the language and that businesses and services realise the benefits of the language and act upon their responsibilities.

We are a central contact for other Welsh and community organisations in the county and we work in partnership with them. Through our work, we hope to ensure fair treatment and equal rights for the Welsh language in Rhondda Cynon Taf.

We have an ambitious aim:

“That the Welsh language belongs to all of us in Rhondda Cynon Taf and is a living language in our communities.”

llun gwefan 1
llun gwefan 2
llun gwefan 3

Hanes
History

Man cychwyn...

Sefydlwyd Menter Taf-Elái yn 1992 yn dilyn adroddiad grŵp cymunedol a sefydlwyd i gefnogi Eisteddfod yr Urdd Taf-Elái 1991.

Tasg gyntaf y Fenter newydd oedd casglu arian i gychwyn cynnal gweithgareddau i blant a phobl ifanc. Roedd gweithgarwch codi arian yn parhau ar ôl yr Eisteddfod a sicrhaodd hynny sail gadarn i gychwyn datblygu. Derbyniodd y Fenter grant o’r Swyddfa Gymreig a phenodwyd Swyddog Datblygu yn 1993.

Agorwyd swyddfa’r Fenter yn y Tŷ Model, Llantrisant, ac yn fuan datblygodd y Fenter i ddarparu gweithgareddau di-ri yn cynnwys cynlluniau chwarae yn y gwyliau, clybiau i blant a phobl ifanc yn cynnwys snwcer, drama a phêl-droed. Cynhaliwyd y Raligamps cyntaf yn 1993 ym Mharc Ynysangharad a dyfodd i fod yn ŵyl enfawr Parti Ponty erbyn 1998.

Erbyn hyn mae’r Fenter â swyddfa yng nghanol Y Porth ac yn cyflogi 5 aelod o staff yn y swyddfa a dros 40 aelod o staff yn gweithio fel rhan o dîm y gwasanaethau plant.

In the beginning...

Menter Taf-Elái was established in 1992 following a report by a community group set up to support the 1991 Urdd Eisteddfod in Taf-Elái.

Their first task was to collect funds to start delivering activities for children and young people. The fundraising continued after the Eisteddfod and guaranteed a solid foundation to start developing.

Menter recieved a grant from the Welsh Office and appointed a Development Officer in 1993.

The Menter Iaith office opened at the Tŷ Model, Llantrisant and quickly developed to provide a range of activities, including holiday play schemes, and clubs for children and young people including snooker, drama and football. They organised the first Raligamps at Ynysangharad Park Pontypridd in 1993 and that grew to become the big Welsh festival ‘Parti Ponty’ by 1998.

Today, Menter Iaith RHCT has an office in Porth town centre and employs 5 members of staff with over 40 others working as part of the children’s services team.